Blog newydd o Merched Chwarel, gan Jwls Williams.
Dyma fi wedi cael fy magu yng nghysgod y Graig, sef Chwarel Penmaenmawr lle bu’n Taid, hen daid a mwy diweddar 3 o frodyr fy nhad yn gweithio.
Y mae chwareli yn rhan o fy hunaniaeth, ac yr wyf wastad wedi mynegu hyn trwy gelf; fy mherthynas unigryw a lle, a phresenoldeb trawiadol chwareli o fewn y dirwedd.
Merch y chwarel yn wir – ond beth yw arwyddocâd hyn heddiw ?
Wel, mae’r ffaith nad oeddwn erioed wedi ystyried y cwestiwn yn ddiddorol yn ei hun rywsut? Heb aros i sylweddoli’r anomaledd, dyma fi ymhlith hanes- dynion?
Y mae cychwyn ar y daith ‘Merched Chwarel’ yn agor gymaint o ddrysa a chwestiynau yn barod:
– o safbwynt fy hun, fel merch chwarel.
– ni’n pedair, ein grŵp a’n cysylltiadau a’n profiadau gwahanol, a’r bwriad o rannu a cyd-weithio.
– Pha rôl oedd gan ferched mewn hanes cyfoethog ein chwareli ?
View original post 4 more words